Deunyddiau Ymholiadau Gwyddonol [ar gael yn awr]
CRPSAT a enillodd y cytundeb gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (APADGOS) i ddatblygu Deunyddiau Ymholiadau Gwyddonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Nod y deunyddiau dwyieithog hyn yw cynorthwyo athrawon i weithredu cwricwlwm gwyddoniaeth newydd 2008. Maent yn cysylltu â’r Fframwaith Sgiliau ac yn darparu cefnogaeth ar gyfer datblygu dulliau meddwl y dysgwyr mewn gweithgareddau gwyddoniaeth. Cewch weld y canllawiau i athrawon a gweithgareddau enghreifftiol o’r pecyn trwy glicio ar y dolenni cyflym isod.
- Llawlyfr Athrawon – cyflawn [292kb PDF]
- O amgylch fy ysgol – ymarfer enghreifftiol [104kb PDF]
- Chwaraeon a hamdden – ymarfer enghreifftiol [80kb PDF]
Mae’r deunyddiau’n cynnwys un ar ddeg o unedau sy’n annog y dysgwyr i gymryd rhan, yn ogystal â Llawlyfr Athrawon. Mae pob uned yn dilyn thema ac yn cynnwys deg gweithgaredd a fydd yn ennyn diddordeb y dysgwyr am un wers neu fwy nag un wers.
Mae pob uned yn cynnwys:
- Amrywiaeth o weithgareddau i gynorthwyo’r dysgwyr i feddwl ac ymchwilio.
- Nodiadau i athrawon ynghylch sut i reoli gweithgaredd.
- Taflenni ymchwil y gellir eu llungopïo i ddysgwyr unigol, parau neu grwpiau.
Lawrlwythwch ffurflen archebu [504kb PDF]