Datblygu Proffiliau Sgiliau Ar-lein

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, trwy’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) wedi comisiynu CRIPSAT i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu prosiect arloesol ar gyfer cofnodi Proffiliau Sgiliau dysgwyr yng Nghymru yn electronig, yn unol â’r cwricwlwm newydd sy’n canolbwyntio mwy ar y prosesau. O ganlyniad, mae cwmni Connect Internet Solutions wedi llunio datrysiad sy’n defnyddio’r Rhyngrwyd. Mae’r Proffiliau Sgiliau’n cynnwys casgliad o offer digidol a fydd o gymorth i athrawon gynllunio, cofnodi ac adrodd am ddatblygiad sgiliau’r dysgwyr ym meysydd Datblygu Meddwl, Datblygu Rhif a Datblygu Cyfathrebu. Bydd y system yn galluogi athrawon i lwytho deunyddiau amlgyfrwng yn dystiolaeth o gyrhaeddiad dysgwyr. Dros y ddwy flynedd nesaf, gan ddefnyddio data empirig o ddau Gynllun Peilot, bydd y prosiect yn darparu cyfleuster dwyieithog ar y rhyngrwyd a fydd yn cyflawni’r meini prawf hygyrchedd er mwyn sicrhau llwyddiant i bawb. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal rhwng Ionawr 2007 a Rhagfyr 2009.