Gwefan Gwyddoniaeth CA2

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, trwy’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS), wedi comisiynu CRIPSAT i ddatblygu casgliad cynhwysfawr o weithgareddau digidol i gefnogi addysgu a dysgu gwyddoniaeth CA2. Bydd yr adnoddau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg a byddant yn seiliedig ar y Gorchymyn Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, (a ddaeth i rym ym Medi 2008). Bydd y gweithgareddau’n cwmpasu cwricwlwm gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 2 ac yn cyflawni egwyddorion y Fframwaith Sgiliau newydd ar gyfer Cymru, gan gynnwys datblygu sgiliau meddwl. Bydd yr adnoddau yn gyfredol ac arloesol, a bydd y Cwricwlwm Cymreig ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol wedi’u hymgorffori ynddynt.

Bydd pob gweithgaredd yn cynnwys cyfuniad o elfennau rhyngweithiol, gan gynnwys clipiau fideo, ac mewn llawer achos, dolenni i ffeiliau allanol fydd yn cefnogi dysgu cyfunol. Ni fydd yr adnoddau i’w cael ar wefan ar wahân, ond yn hytrach byddant yn rhan o Ganolfan Athrawon Rithwir y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu (http://www.ngfl-cymru.org.uk). Disgwylir cwblhau’r prosiect ar ddiwedd 2009.