Datblygu Deunyddiau Asesu Dewisol ar gyfer ‘Datblygu Meddwl’.

Cyflwynir cwricwlwm ysgol diwygiedig yng Nghymru ym Medi 2008. Un o’r newidiadau fydd y pwyslais ychwanegol ar ddatblygu sgiliau’r dysgwyr ym meysydd Datblygu Meddwl, Datblygu Cyfathrebu a Datblygu Rhif. Er mwyn cynorthwyo dysgu ac addysgu’r cwricwlwm diwygiedig, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, trwy’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol oes a Sgiliau (APADGOS) wedi comisiynu amrywiaeth o Ddeunyddiau Asesu Sgiliau Dewisol (DASDau) i gefnogi ei newidiadau radical yn y cwricwlwm. CRIPSAT a enillodd y cytundeb i archwilio, cynnal peilot a datblygu deunyddiau a fyddai o gymorth i athrawon wrth iddynt weithredu ac asesu Datblygu Meddwl. Mae’r newid mewn addysgeg a ddaw i’r amlwg trwy’r deunyddiau hyn wedi ei gysylltu â chynnydd sylweddol yng nghyrhaeddiad dysgwyr. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal rhwng Ionawr 2007 a Rhagfyr 2009.