![]() |
||||
| Current Projects / Non-statutory assessment and curriculum materials for Wales |
HOME | |||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||
|
Yn 2000, dyfarnwyd cytundeb i CRIPSAT gan ACCAC (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) i ddatblygu Profion Gwyddoniaeth CA2 yng Nghymru ar gyfer 2003, 2004 a 2005. Yn ddiweddarach, dyfarnwyd y cytundeb i ddatblygu profion anstatudol ar gyfer 2006, a Deunydd Asesu Dewisol ar gyfer 2007 yn ogystal. Roedd profion 2003 a 2004 yn statudol yng Nghymru yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, ond yn dilyn datganiad gan y Gweinidog Addysg yng Nghymru yng Ngorffennaf 2004, bydd profion 2005 a 2006 yn anstatudol. Bydd y Deunydd Asesu Dewisol yn cydweddu â'r gyfres wreddiol o Ddeunydd Asesu Dewisol ar gyfer CA2 a ysgrifennwyd gan CRIPSAT ac a gyhoeddwyd gan ACCAC yn 2001. Ffocws penodol deunyddiau 2007 fydd asesu Ymholiad Gwyddonol. Ar hyn o bryd mae staff y prosiect ynghlwm wrth ddatblygu profion gwyddoniaeth anstatudol CA2 ar gyfer 2006, Deunydd Asesu Dewisol ar gyfer 2007 a deunyddiau Ymholiad Gwyddonol ar gyfer y dosbarth yn CA2. |
![]() |
||||||||||||||||||||
Tefniadau asesu yng Nghymru 2000-04 Bu ACCAC yn gyfrifol am adolygu'r cwricwlwm yng Nghymru rhwng Medi 1997 a Ionawr 1999. Arweiniodd hyn at gyflwyno dogfen gwricwlwm newydd a fu'n weithredol yn yr ysgolion o Fedi 2000 ymlaen. www.accac.org.uk/publications/ncorders.html Yn ystod y cyfnod 2000-04 bu'r holl ddisgyblion 11 a 14 oed oedd yn gymwys, yn sefyll profion statudol ar ddiwedd cyfnodau allweddol 2 a 3. Roedd y profion statudol wedi eu sylfaenu ar y rhaglenni astudio perthnasol o fewn y ddogfen Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. Bu profi statudol yn weithredol yn y pedwar pwnc craidd, sef yn y Gymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae fersiynau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg o'r profion mathemateg a gwyddoniaeth ar gael i ysgolion. Diddymwyd y profion statudol allanol ar ddiwedd CA1 (disgyblion 7 oed) yn y Gymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth yn y flwyddyn 2000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ystod y cyfnod ar ol 2000, dibynwyd ar asesiad athrawon ar gyfer asesu ac adrodd ar gynnydd disgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 1. Cyn y flwyddyn 2000, datblygwyd profion asesu safonol yn y Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ar y cyd â Lloegr, yn gyffredinol. Ers y flwyddyn 2000 mae'r holl brofion statudol yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 yng Nghymru wedi eu datblygu a'u cyhoeddi yn annibynnol o'r deunyddiau prawf cyfatebol yn Lloegr. Mae datblygiadau diweddarach wedi arwain at ymwahanu pellach rhwng y systemau sy'n bodoli yn Nghymru a'r rhai yn lloegr. Cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Gorffennaf 2004 Yn 2003, gwahoddwyd yr Athro Richard Daugherty gan y Gweinidog Addysg i ymgymryd ag adolygiad o drefniadau asesu'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer disgyblion 11 a 14 oed yng Nghymru. Cyhoeddwyd Adroddiad Terfynol Grŵp Adolygu Asesu Daugherty o'r enw 'Llwybrau Dysgu trwy Asesu Statudol: Cyfnodau Allweddol 2 a 3', ym Mai 2004. www.learning.wales.gov.uk/scripts/fe/news_details.asp?NewsID=1123 Atgyfnerthwyd adroddiad terfynol Daugherty gan Adroddiad ACCAC i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn Ebrill 2004 o'r enw Adolygiad o'r Cwricwlwm Ysgol a Threfniadau Asesu 5-16. Yn ei datganiad ar 13 Gorffennaf 2004, cyhoeddodd Jane Davidson, y Gweinidog Addysg yng Nghymru, newidiadau pellgyrhaeddol i'r trefniadau asesu diwedd cyfnodau allweddol 2 a 3. Roedd hyn yn dilyn derbyn dwy set o gynghorion- adolygiad Daugherty ac adroddiad ACCAC. Mae datganiad y Gweinidog yn cydnabod bod y trefniadau asesu cyfredol wedi darparu dull o fesur cyraeddiadau disgyblion ar hyd llwybr clir ac wedi gwella arbenigedd athrawon wrth farnu ynglŷn â'r cyraeddiadau hynny, ond awgryma symud i ffwrdd, yn ystod y pedair mlynedd nesaf, oddi wrth y gyfundrefn asesu bresennol tuag at system sydd wedi ei gerio fwy i'r disgybl, yn ffocysu mwy ar sgiliau, ac asesiad athrawon yn ganolbwynt iddi. Mae'r trefniadau newydd a gynigir gan y Gweinidog yn cynnwys: • Profion anstatudol cyfnod allweddol 2 yn cael eu darparu i ysgolion ar gyfer 2005 a 2006. www.learning.wales.gov.uk/scripts/fe/news_details.asp?NewsID=1298 www.accac.org.uk/schoolcurric/review_ofschoolcurric.html Egwyddor CRIPSAT o adlewyrchu'r ymarfer gorau Sefydlwyd a chynhaliwyd cyswllt uniongyrchol gydag ymarfer cynradd penigamp mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gan bwysleisio egwyddor CRIPSAT i ddatblygu eitemau asesu a deunydd cwricwlaidd sy'n adlewyrchu'r ymarfer gorau sydd i'w gael yn yr ysgolion. Yn y dull hwn, mae'r deunydd yn adlewyrchu ecoleg y dosbarth a gall ol-effeithiau y gyfundrefn brofi gael dylanwad gadarnhaol ar ymarfer athrawon a chanlyniadau dysgu disgyblion. Mae tri dull o ymglymu athrawon yn weithredol: Cyflwyno syniadau newydd yn ymarferol a gwirio eu dilysrwydd yn y dosbarth Mae staff CRIPSAT yn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r feddylfryd ddiweddaraf ynglŷn ag ymarfer fel ag y cyhoeddir yn y llenyddiaeth sy'n cyfeirio at gwricwlwm, addysgeg ac asesu o fewn gwyddoniaeth gynradd. Mae syniadau sy'n gwthio'r ffiniau ac yn cadw'r pwnc 'yn fyw' yn cael eu bwydo i weithgareddau yr ysgolion cydweithrediadol, gan brofi eu dilysrwydd yn y dosbarth ac yna'u hail adeiladu i ysbrydoli datblygiad asesu. Defnyddio chwiliedyddion cysyniadol yn tarddu o ymchwil a gyhoeddwyd Yn ychwanegol at weithgareddau asesu eang, mae gan CRIPSAT ymglymiad hirsefydlog ac uniongyrchol ag ymchwil cydweithrediadol ag athrawon. Mae llawer o'r ymchwil hwn wedi bod yn ymwneud â deall dilyniant cysyniadol disgyblion wrth fagu dealltwriaeth o syniadau gwyddonol. Mae'n cynnwys archwilio gydag athrawon y modd y gellir gwneud syniadau o'r fath yn fwy hygyrch i fwy o ddisgyblion. Mae gwaith ymchwil staff y ganolfan hon ag ymchwil eraill sydd o'r un natur yn aml yn defnyddio cyfryngau ymchwil y gellid meddwl amdanynt yn gyffredinol fel 'chwiliedyddion cysyniadol.' Yn aml, gellir ailddrafftio cyfryngau o'r fath yn llwyddiannus ar gyfer eu defnyddio ar ffurf papur a phensil. Mewn achosion o'r fath, mae'r asesu yn tynnu gwybodaeth o waith ymchwil i ysbrydoli a chwestiynu ymarferion a chanlyniadau dosbarth yn hytrach na'u hadlewyrchu. |
|||||||||||||||||||||
![]() |
Back to Top |
||||||||||||||||||||